Is-bwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Dyddiad: 23 Hydref
Amser: 12:45 – 14:45
Teitl: Papur tystiolaeth – Cyllideb Ddraft 2015-16
Gwybodaeth Ychwanegol - Y Gyllideb Gynllunio a'r Bil Cynllunio
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol;
1. Mae'r papur hwn yn rhoi gwybodaeth ar y gyllideb Gynllunio arfaethedig ar gyfer 2015/16, a goblygiadau y Bil Cynllunio (Cymru). Mae'r gyllideb Gynllunio ar gyfer 2015/16 yn £6,421 mil, sy'n ostyngiad o £385 mil o gyllideb Atodol 2014/15.
2. Mae'r gyllideb yn cynnwys cyllid ar gyfer rheoliadau adeiladu, sy'n adlewyrchu'r ffaith bod y cyfrifoldeb am reoliadau adeiladu wedi trosglwyddo i'r Prif Gynllunydd yng Ngwanwyn 2013.
3. Mae gan y system cynllunio defnydd tir swyddogaeth hanfodol i lywio dyfodol Cymru drwy helpu i gyflawni'r swyddi, y cartrefi a'r seilwaith yr ydym eu hangen, tra'n diogelu a gwella ein amgylchedd adeiledig a'r amgylchedd naturiol. Yn yr un ffordd, mae'r system rheoli adeiladu yn gysylltiedig â sicrhau iechyd, diogelwch a chynaliadwyedd adeiladau. Mae'r ddau yn allweddol i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynaliadwy a'r agenda carbon isel.
4. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu'r fframwaith ddeddfwriaethol, y polisïau a'r canllawiau sydd eu hangen i ddarparu y systemau rheoli cynllunio a rheoli adeiladu, sy'n cael eu darparu o ddydd i ddydd gan awdurdodau cynllunio lleol, y sector preifat a chyrff rheoli adeiladau yr awdurdod lleol.
5. Mae cyllideb y rhaglen Gynllunio yn ariannu elfennau allweddol y systemau rheoli cynllunio a rheoli adeiladau, sy'n amrywio o werthuso a datblygu polisïau a gweithdrefnau i lywio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, Polisi Cynllunio Cymru, nodiadau cyngor technegol a throsi deddfwriaeth Ewropeaidd, i ariannu Arolygiaeth Gynllunio Cymru, Comisiwn Dylunio Cymru a Rhagoriaeth Adeiladu Cymru, er enghraifft. Mae'r gyllideb hefyd yn cynnwys rhywfaint o ffrydiau cyllido nad ydynt yn rhan uniongyrchol o reoli cynllunio ac adeiladu.
Cyllideb ar gyfer Cynllunio 2015/16
6. Mae cyllideb y rhaglen ar gyfer yr Is-adran Gynllunio yn BEL 2250 ac mae wedi'i amlinellu isod.
2014/15 2015/16
Cyllideb Cyllideb Ddrafft
Atodol
£000 £000
Cynllunio 6,806 6,421
7. Ni fydd y lleihad yn cael effaith ar ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu, gan gynnwys Bil Cynllunio (Cymru), ond bydd yn cael effaith ar y gostyngiad yn y galw am raglenni penodol, yn bennaf Gronfa yr Ardoll Agregau.
8. Bydd manylion goblygiadau ariannol y Bil Cynllunio (Cymru), gan gynnwys y goblygiadau i Lywodraeth Cymru, yn yr asesiad effaith rheoleiddiol sy'n gysylltiedig â'r Bil.
Carl Sergeant AC Rebecca Evans AC
Gweinidog Cyfoeth Naturiol Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd